News section
home news forum careers events suppliers solutions markets resources directories advertise contacts search site plan
 
.
Amcan i gadw rheolaeth dyn ar gnydau a'u addaswyd yn enetig yng Nghymru
Proposal for tighter regulation of genetically modified crops in Wales

.

Cardiff, Wales
February 25, 2009

Source: Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government

Mae Elin Jones yn bwriadu cyflwyno mesurau i amddiffyn ffermwyr cnydau rhag anfanteision economaidd posibl pe bai cnydau GM yn eu halogi’n ddamweiniol. Wrth gyhoeddi ei bwriad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gydfodoli, dywedodd Elin Jones:

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo ers tro byd i fabwysiadu’r polisi mwyaf cyfyngol posibl mewn perthynas â chnydau GM, cyhyd ag y bo hynny’n gyson â deddfwriaeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Yn gyfreithiol, nid yw’n bosibl datgan bod Cymru’n rhydd o GM, ond byddwn yn parhau â’r polisi cyfyngol a rhagofalus hwn.

“Y bwriad yw sicrhau bod y mesurau cydfodoli o dan reolaeth lem yng Nghymru. Bydd ein mesurau arfaethedig yn fwy cyfyngol na’r rheini sy’n cael eu hargymell yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Byddwn yn cynnwys opsiynau ar gyfer gorfodi atebolrwydd llym ar dyfwyr cnydau GM ac yn cyflwyno cynllun digolledu gwirfoddol wedi’i ariannu gan y diwydiant. Efallai hefyd y byddai modd ystyried opsiwn ar gyfer cyflwyno cynllun digolledu statudol.

“O ran Parthau Rhydd o GM, byddwn ni’n gwahodd sylwadau ar ba mor briodol y byddai gwaharddiad statudol ar dyfu cnydau GM ym mhob un o’r ardaloedd cadwraeth statudol megis Parciau Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

“O ran Cofrestr o Gnydau GM, byddwn yn cynnig cofrestr genedlaethol statudol y bydd modd i’r cyhoedd ei gweld. I dyfu cnydau GM bydd angen cofrestru â Llywodraeth y Cynulliad dri mis cyn eu plannu.

“Byddai disgwyl i dyfwyr ymgynghori â chymdogion er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y pellteroedd gwahanu ac rydym yn cynnig hefyd y bydd gofyniad statudol i roi gwybod am hyn i bobl sy’n byw yn y cyffiniau ac i gymdogion sy’n dirfeddianwyr

“Cynigir y dylid ei gwneud yn ofyniad statudol i gynhyrchwyr GM gadw cofnodion ac i bawb sy’n bwriadu tyfu cnydau GM ar ffermydd gael hyfforddiant ar sut i’w trin.

“Bydd y Mesurau Caeau y byddaf yn eu cynnig yn seiliedig ar faint cae âr ar gyfartaledd yng Nghymru, sef llai na thri hectar. Byddaf hefyd yn cynnig pennu pellteroedd ynysu sylweddol rhwng cnydau GM a chnydau rhydd o GM, ynghyd â pharthau clustogi sy’n cynnwys rhwystrau paill neu faglau.

“O ran Trothwyon ar gyfer Hadau, byddwn yn gwahodd sylwadau ynghylch a ddylid cadw at y trothwy presennol ar gyfer hadau o 0.1%, gan fod llawer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi sefydlu pellteroedd gwahanu ar y sail honno.

“I gloi, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i adolygu’r dystiolaeth, fel gyda phob maes polisi arall, i sicrhau bod ein dull gweithredu yn parhau’n wybodus a’n bod yn ystyried y wybodaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf wrth weithredu ar gnydau GM.”


Proposal for tighter regulation of genetically modified crops in Wales

Rural Affairs Minister Elin Jones intends to introduce measures protecting crop farmers from the possible economic disadvantages of accidental contamination from Genetically Modified (GM) crops. Announcing her intention to hold a public consultation on coexistence, Elin Jones said:

“The Welsh Assembly Government’s long-standing position is to adopt the most restrictive policy on GM crops that is compatible with European Union and UK legislation. It is not legally possible to declare Wales GM-free, but we will continue our restrictive approach.

“The intention is for co-existence to be tightly regulated in Wales. Our proposed measures will be more restrictive than those proposed in England and Northern Ireland.

“We will include options for imposing strict liability on GM crop growers and introducing a voluntary industry funded compensation scheme. Consideration may also be given to an option for a statutory redress mechanism.

“We will seek views on GM Free Zones, the desirability of a statutory prohibition on GM crop cultivation in all statutory conservation areas such as National Parks and Sites of Special Scientific Interest.

“On a GM Crop Register, we will propose a statutory national register with public access. GM crops will require registration with the Welsh Assembly Government 3 months prior to planting.

“In addition to the implicit need for consultation with neighbours, in order to ensure compliance with separation distances, it is also proposed that there will be a statutory requirement to inform all neighbours and landowners.

“It is proposed that record keeping should be a statutory requirement for GM producers, as will training for all on-farm handlers of GM crops.

“The Field Measures I will be proposing are based on our average arable field size in Wales of fewer than 3 hectares. I will also propose significant isolation distances between GM and non-GM crops and buffer zones incorporating pollen barriers or traps.

“On Seed Thresholds, we will seek views on whether the present 0.1% default seed threshold should be retained, as many Member States’ separation distances have been established on that basis.

 

 

 

 

The news item on this page is copyright by the organization where it originated - Fair use notice

Other news from this source


Copyright © SeedQuest - All rights reserved